Cofnodion/Minutes

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth/Cross-Party Autism Group 

 10 Mehefin/June 2015

Cynulliad Cenedlaethol Cymru/National Assembly for Wales

 

1. WELCOME/CROESO

Croesawodd Jeff Cuthbert AC, swyddog y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth a'r Cadeirydd Dros Dro, bawb i'r ail gyfarfod a gynhaliwyd yn 2015.

Roedd yr Aelodau Cynulliad a ganlyn yn bresennol: Aled Roberts a William Powell. Roedd cynrychiolwyr o swyddfeydd Suzy Davies a Mark Isherwood yn bresennol hefyd.

 

2. COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL A'R MATERION A DDEILLIODD OHONO/MINUTES OF THE LAST MEETING AND MATTERS ARISING

Nid oedd materion yn deillio o'r cyfarfod blaenorol, a chytunwyd fod y cofnodion yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod hwnnw.

 

3. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR GYNLLUN GWEITHREDU DROS DRO LLYWODRAETH CYMRU AR AWTISTIAETH/UPDATE ON THE WELSH GOVERNMENT’S INTERIM DELIVERY PLAN ON AUTISM

Rhoddodd Meleri Thomas, Rheolwr Materion Allanol NAS Cymru, y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp ar y cynnydd a wnaed o ran y gwaith o 'adnewyddu' strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru, sy'n mynd rhagddo. Dywedodd Meleri wrth y grŵp bod y Llywodraeth yn parhau i asesu'r effaith y bydd deddfwriaeth newydd yn ei chael ar y strategaeth awtistiaeth. Felly, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun cyflenwi dros dro ar gyfer 2015-16 sy'n cynnwys manylion ynghylch y camau gweithredu a gaiff eu cymryd yn syth yn y flwyddyn sydd i ddod. Gellir darllen y cynllun cyflenwi dros dro yma: http://www.asdinfowales.co.uk/resource/150518_ASD-interim-delivery-plan-2015-16.pdf

 

3.1 Gwnaed ymholiadau ynghylch manylion nifer o'r camau gweithredu sydd wedi'u rhestru yn y cynllun cyflenwi dros dro. Holodd Michael Williams ynghylch y cyfeiriad at 'Arian Cyfrifon Segur', a'r cynnig y dylid defnyddio'r arian hwn i dalu am raglen cyflogadwyedd mewn perthynas ag awtistiaeth. Dywedodd Jeff Cuthbert wrth y grŵp bod yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru, a'i fod yn rhan o'r arian sydd ar ôl yng nghyfrifon segur banc a chyfrifon segur chymdeithasau adeiladu.

3.2 Holodd David Malins ynghylch effeithiolrwydd y Prosiect Monitro Cymunedol y cyfeirir ato yn y Cynllun Cyflawni Dros Dro. Y cam gweithredu yw parhau â'r prosiect ar ei ffurf bresennol.

 

4. CHWARAEON ANABLEDD CYMRU/DISABILITY SPORT WALES

Soniodd Dan Bufton, swyddog chwaraeon anabl Merthyr Tudful, am brosiectau parhaus yn yr ardal ac am gydweithio gyda changen NAS Cymru ym Merthyr. Dywedodd mai ychydig iawn o gyfleoedd a fu yn y gorffennol i bobl â chyflwr sbectrwm awtistiaeth, ond bod cydweithio â'r gangen wedi dod â phosibiliadau newydd i unigolion ag awtistiaeth. Mae'r prosiectau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn cynnwys dringo creigiau, llythrennedd corfforol, amserlennu/cyfathrebu cyfnewid lluniau, yn ogystal ag ymwybyddiaeth ehangach o awtistiaeth ymhlith staff sy'n gweithio mewn canolfannau chwaraeon a hamdden yn y sir.

 

4.1 Siaradodd Jill Grange, swyddog cangen NAS Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r cylch, am yr effaith gadarnhaol y mae gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru wedi'i chael yn ei hardal. Gall y gangen yn awr gynnig jiwdo, golff, nofio ac athletau i'w haelodau.

4.2 Gofynnodd Ann Fowler a oedd terfyn oedran o ran yr unigolion y gallai Chwaraeon Anabledd Cymru eu cefnogi. Dywedodd Dan Bufton nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar sail oedran.

4.3 Cytunodd Alwyn Rowlands, sy'n rhedeg y Grŵp Cefnogi Awtistiaeth/Asperger Gwynedd a Môn, fod y cyllid sydd ar gael i raglenni Chwaraeon Anabledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth ledled Cymru.

4.4 Yn sgil tueddiad byd-eang lle nad yw llawer o bobl ag awtistiaeth, yn enwedig pobl ifanc, yn datgan eu bod yn 'anabl', gofynnodd Alis Hawkings, un o weithwyr cymorth i deuluoedd NAS Cymru, a allai hyn fod yn rhwystr iddynt o ran cael mynediad at y gwasanaethau gwych hyn.

4.5 Dywedodd Theresa James, arweinydd y gwaith a wneir gan Gyngor Sir Fynwy ar Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, fod y gwaith sy'n mynd rhagddo yn ei hardal hi yn arbennig o addawol, a bod hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol yn cael ei ddarparu ym mhob canolfan hamdden a chwaraeon.

4.6 Rhannodd Dan Bufton stori am ddyn ifanc ag awtistiaeth sy'n Llysgennad Ifanc dros Chwaraeon Anabledd Cymru ac sy'n eistedd ar y grŵp llywio. Mae'r rhaglenni chwaraeon wedi cael effaith drawsnewidiol arno.

4.7 Dywedodd Ruth Jones, swyddog cangen NAS Cymru ym Merthyr Tudful, fod y rhaglenni hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig i'r rhai sydd â syndrom Asperger, ond dywedodd hefyd nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer unigolion sydd ag awtistiaeth glasurol yr un peth. Siaradodd Ruth am ba mor anodd oedd hi i gael Therapi Galwedigaethol pwysig, sy'n hanfodol ar gyfer ei mab ei hun.

 

5. TRENAU ARRIVA CYMRU: AWTISTIAETH A THRAFNIDIAETH / ARRIVA TRAINS WALES: AUTISM AND TRANSPORT

Amlinellodd Michael Vaughan a Ben Davies, a oedd yn cynrychioli Trenau Arriva Cymru, bolisïau'r cwmni ar gyfer sicrhau hygyrchedd i bawb.Siaradodd y ddau am ymrwymiad i leihau allgáu cymdeithasol drwy bolisi cadarnhaol o wella mynediad i wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau. Dywedodd y ddau y byddant yn cydweithio'n agos â chydweithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd i gyflawni'r nod hwn mewn achosion lle maent yn gyfrifol am ddarparu cyfleusterau neu yn berchen arnynt. I gloi, buont yn hyrwyddo'r cynllun Waled Oren, sydd â'r nod o hysbysu staff ei bod yn bosibl bod gan unigolyn anghenion teithio ychwanegol. Pwysleisiodd Michael a Ben eu bod yno i wrando ar broblemau ac atebion. Agorwyd y ddadl i'r llawr.

 

5.1 Yn ôl Mat Mathias o NAS Cymru, er y gellid croesawu unrhyw beth a allai helpu pobl i deithio'n annibynnol, fel y Cynllun Waled Oren, natur yr hyfforddiant a ddarperir i staff ar gyfer cefnogi pobl ag anableddau yw'r mater hollbwysig. Dywedodd Ben fod yr hyfforddiant hwn yn barhaus, a bod staff yn cael hyfforddiant gloywi bob 16 wythnos.

5.2 Gwnaeth Louise Rixon y pwynt nad oedd hi'n gallu teithio ar y trên gyda'i mab gan nad yw'r toiledau na'r cyfleusterau newid yn gydnaws â'u hanghenion. Mewn achosion lle mae cyfleusterau newid ar gael, maent ar gyfer plant bach iawn yn unig. Dywedodd Trenau Arriva Cymru ei fod wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl orsafoedd a'r holl drenau yn hygyrch, ac wrth i wasanaethau newydd gael eu datblygu, byddant yn adlewyrchu anghenion newidiol cwsmeriaid.

5.3 Siaradodd Janet Williams am brofiad gwael a gafodd ei mab gyda staff yng ngorsaf drenau Abertawe. Dywedodd nad yw ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth am awtistiaeth eto wedi cyrraedd y nod.

5.4 Dywedodd Colin Foster o gangen NAS Cymru ym Merthyr Tudful fod pasbortau cyflwr sbectrwm awtistiaeth yn cael eu datblygu, a gofynnodd a oeddent yn gydnaws â'r Waled Oren. Yn yr un modd, soniodd Alka Ahuja am ap symudol sy'n darparu cipolwg ar unigolyn a'i anghenion. Awgrymwyd fod unrhyw beth a fydddai'n helpu'r broses o ddarparu gwybodaeth am anghenion ychwanegol unigolion yn ddefnyddiol i staff.

 

6. CATH DYER

Roedd Cath Dyer yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am y cynnydd a wnaed gan ei merch, Claire, ers i'r gorchymyn arni ddod i ben. Mae Claire wedi bod yn ffynnu gartref o dan ei threfniadau cymorth newydd. Canodd yn y seremoni enwebu ar gyfer Gowbrau Arwyr Awtistiaeth, a bydd yn gwneud hynny eto yn y Seremoni Wobrwyo. Dywedodd Cath ei bod yn mwynhau bod gartref, gyda'i ffrindiau a'i theulu o'i chwmpas, a'i bod yn falch o gael cefnogaeth gan bobl sy'n deall awtistiaeth.   

6.1 Roedd Jeff Cuthbert yn falch i glywed am gynnydd Claire a dywedodd fod llawer i'w ddysgu ynghylch yr achos hwn.

 

7. MATERION A GODWYD / ISSUES RAISED

7.1 Siaradodd Keith Ingram yn fyr am waith sy'n cael ei wneud gyda chanolfannau gwaith. Roedd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am yr adnoddau newydd sydd ar gael ar-lein. Gellir eu gweld yma: http://www.asdinfowales.co.uk/home.php?page_id=8722&langSwitch=cym

7.2 Roedd un o drigolion Caerdydd am godi mater lleol. Yn ei hadolygiad diwethaf, dywedodd seiciatrydd ei mab wrthi ei fod o dan gyfarwyddyd i beidio â gweld plant ag awtistiaeth nad oedd ganddynt unrhyw gyflwr cyd-forbid. Byddai hyn yn golygu nad oedd llwybr diagnostig ar gyfer awtistiaeth. 

7.3 Gofynnodd David Malins am ragor o fanylion am gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS). Hoffai wybod yn union sut y bydd yr arian yn cael ei wario ac a yw'n arian a ddyrannwyd eisoes i bethau eraill. Yn ogystal, dywedodd David nad yw gwasanaethau ôl-ddiagnosis ar gael i oedolion, a nododd ei sefyllfa ei hun fel enghraifft o rywun sydd â diagnosis ond nad yw'n gallu cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei angen arno.

 

4. ACTIONS / PWYNTIAU GWEITHREDU

Bydd y Grŵp yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael rhagor o fanylion ynghylch y cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar ynghylch cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau diagnostig ym maes Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.

 

5. UNRHYW FATER ARALL

Dyddiad a lleoliad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth: 11 Medi 2015 / Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam  Y cyfarfod nesaf yng Nghaerdydd: Tachwedd 18 2015 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.